Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Chwefror 2023
Amser:
12.00 -
14.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13211
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Dr James George, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)316 – Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)317 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.3 SL(6)320 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol
2.4 SL(6)319 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offeryn nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7
3.1 SL(6)318 – Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grwp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gweinidogion Iechyd y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.4 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Llywodraeth y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Caffael
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog Materion Gwledig a a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a Gweinidog yr Economi: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog.
5.4 Briff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Ail Ddarlleniad Tŷ’r Arglwyddi o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y briff gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
5.5 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Capasiti Llywodraeth Cymru i ddeddfu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
5.6 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor
Yn unol â Rheol Sefydlog 26C.27, gwaredodd y Pwyllgor y
gwelliannau i'r Bil yn y drefn a ganlyn:
Gwelliant 49 (James Evans AS)
O Blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
James Evans |
Alun Davies |
|
Peredur Owen Griffiths |
Huw Irranca Davies |
|
Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii)). Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 49. |
Derbyniwyd gwelliant 1 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 2 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 3 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 4 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 5 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 32 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 33 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 34 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 6 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 7 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 8 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 9 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliannau 10, 11 a 12 (Mick Antoniw AS)
yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 13 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliannau 14, 15 ac 16 (Mick Antoniw
AS) yn unol â Rheol
Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 17 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 18 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 19 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 20 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 21 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 22 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 23 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 35 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliannau 36, 37 a 38 (Mick Antoniw AS)
yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 39 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 24 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 40 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 25 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 26 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 27 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 28 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 29 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 30 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 31 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant
50
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant 51
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant 52
Derbyniwyd gwelliant 41 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 42 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 43 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 44 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 45 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i).
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant 46
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant 47
Gan y gwrthodwyd gwelliant 49, methodd gwelliant 48
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): y camau nesaf o ran ystyriaeth fanwl y Pwyllgor
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar ei ystyriaeth fanwl o’r Bil yn ei gyfarfod nesaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am eglurhad pellach.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft.
11 Cytundebau rhyngwladol:
Trafododd y Pwyllgor y cytundeb rhyngwladol ar Gydnabyddiaeth Gilyddol ynghylch Trwyddedau Gyrru y DU/yr Eidal at Ddibenion Cyfnewid. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei adroddiad drafft ar y cytundeb y tu allan i'r Pwyllgor er mwyn caniatáu i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn y terfyn amser perthnasol ar waith craffu.